Penillion am Drefor gan R. Lloyd Jones
Dyma ragor o benillion am Drefor. Eisoes ar Cof y Cwmwd ceir dau bennill Tyddynnod a Ffermydd Trefor a gyfansoddwyd gan Robert (R.) Lloyd Jones (1878-1959), a fu'n brifathro Ysgol Trefor o 1913 hyd 1928. Yn ddiweddar cafwyd ar fenthyg gan Dafydd Roberts, Tir Du, Trefor lyfr ymarferion ysgol (Exercise Book), a oedd yn eiddo i berthnasau iddo, sef y diweddar Catherine D. Davies (Ellis yn ddiweddarach) a'i brawd Griffith Charles Davies, Gorffwysfa, Trefor. Yn y llyfr hwn ceir y ddau bennill gweddol gyfarwydd i drigolion y fro yn enwi'r tyddynnod a'r ffermydd, ond o'u blaenau ceir wyth pennill arall o waith R. Lloyd Jones dan y pennawd 'Penillion Telyn' yn sôn am bentref Trefor a Chwarel yr Eifl, a roddodd fodolaeth iddo mewn gwirionedd. Yn y trydydd pennill nodir fod y pentref ymhell o gyrraedd tref a rheilffordd, ond dywedir y caiff y trigolion eu cludo yn 'bur ddi-gur' gan 'fodur ceir yn fuan'; cyfeiriad mae'n debyg at gwmni bysiau Clynnog a Threfor, neu'r 'Moto Coch'. Cyfeirir wedyn at y 'seindorf bêr' yn y pennill nesaf ac yna at fri cerdd a chân ymysg y pentrefwyr gan ddymuno llwyddiant i'r cystadleuwyr. Caiff moesoldeb Trefor ei ddyrchafu wedyn - pentref 'heb dafarn na heddgeidwad' lle nad oedd angen am wasanaeth na barnwr nac ustus. Cwynir, fodd bynnag, am gyflwr y ffordd droellog (yr hen lôn fel y gelwir hi o hyd) i lawr i'r pentref, gan resynu na ellid cael un amgenach o ystyried bod cerrig yr Eifl yn palmantu dinasoedd y byd. Bu'n rhaid disgwyl tan y 1930au, wedi ymadawiad R. Lloyd Jones, cyn y cafwyd ffordd newydd i Drefor. Fe'i bedyddiwyd hi'n 'Lôn Newydd' - enw a arddelir hyd y dydd heddiw. Fel y gwelir mae'r penillion at ei gilydd yn rhai crefftus gydag odlau mewnol yn llawer o'r cwpledi. Dyma nhw, gan ddiolch i Dafydd am ei ganiatâd parod i'w rhoi yn y Cof:
Penillion Telyn
Am Drefor canwn gyda hwyl Yn nifyr ŵyl ein hysgol, Dyma dreflan garwn ni Lle gwych o fri cynyddol; O olwg byd yn isel cudd Dan fynydd mawr cysgodol.
Pentref poblog prysur plaen A maen yw sail ei lwyddiant, Naddu’r graig yn balmant cryf I’r byd yw’n prif ddiwydiant; Ar y graig uwchben y bae Ein tadau’n gyson weithiant.
Pelled ŷm o gyrraedd tref A relwe hwylus lydan, Cludir ni yn bur ddi-gur Gan fodur ceir yn fuan; Am daith agos neu fo bell Nid oes mo’i gwell yn unman.
Enwog yw ein seindorf bêr Nis oes i’r sêr ei thebyg, O’r cyrn arian clywn yn dod Bêr nodau felys fiwsig; Cant alwadau o bob man I wneud eu rhan gwir bwysig.
Hoff yw’r fro o gerdd a chân Rym fel ar dân am ganu, Lleisiau gwir gyfoethog fedd Ein llanciau a’n lodesi; Llwyddiant fo i gorau’r fro Pan fyddont yn cystadlu
Difyr lecyn dyma’n barn Heb dafarn na heddgeidwad, Tawel fyw wnawn yn gytûn Mewn heddwch cun yn wastad; Tae pawb fel ni ni chawsid gwaith I farnwr nac ustusiad
O ben-lôn i lawr rhaid dweud Fod angen gwneud mawr welliant, Hen ffordd droellog front i draed Wel aed i ebargofiant; Am balmantu ffyrdd i’r byd Ai dyma’i gyd yw’n haeddiant?
Er mai gŵyr y chwarel geir Yn trigo yn y pentref, Ffermydd welwn yma a thraw I blant yn hoffus gyrchle; Enwn hwy yn awr ar gân Ac yna mi gawn eistedd.
Gwydir Bach a Gwydir Mawr, Llwyn’raethnen a Chefn Berdda, Gapas Lwyd, Nant Bach a Chwm, Tir Du, Llwy Pric, Cae Cropa, ’Sgubor Wen a Thanybwlch, Pen Lôn, Cae’r Foty, Morfa.
Lleiniau Hirion, Parsal, Graig, Uwchfoty, Tanycreigiau, Tyddyn Coch a Nantycwm, Dau Derfyn a Brynhudfa, ’Lernion, Maesneuadd a Thyngors, Tai Nwddion, Bwlcyn, Rhendra. R Lloyd Jones