Parti Lleu
Daeth cryn lwyddiant i Barti Lleu yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru dan arweiniad Glesni Jones. Fe’i sefydlwyd gan Carys Puw Williams i gystadlu yn Eisteddfod Cricieth a’r Cylch yn 1975 ond a roddodd y gorau iddo pan ymgymerodd ei gŵr, y Parchedig Meurwyn Williams, â gofal eglwys arall yng Nghaerdydd. Cymerwyd awenau’r Parti gan Glesni, gan ddod i’r brig ar y gystadleuaeth i bartïon cerdd dant yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon yn 1979. Bu 1980 a 1981 yr un mor llwyddiannus gan ddod i’r ail neu drydedd safle yn gyson o hynny ymlaen. Bu’n cystadlu hefyd yn yr Ŵyl Cerdd Dant o’r wyth degau ymlaen gan ddod i’r ail neu drydedd safle yn bur aml. Yn y naw degau roedd y Parti wedi datblygu’n gôr – Côr Arianrhod – ac o dan arweiniad Glesni daethant i’r drydedd safle yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1997 a’r ail safle yn 1999.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Allan o Aled Lloyd Davies, Canrif o Gân, Cyfrol 2: Datblygiad Cerdd Dant ym Môn, Arfon, Llŷn ac Eifionydd, Maldwyn a De-orllewin Cwm Tawe a'r De-ddwyrain, (Cymdeithas Cerdd Dant Cymru), 2000; a gwybodaeth bersonol.