Pandy Hafod-y-wern
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Nodir adeilad gyda'r enw Pandy ar lan yr afon gyferbyn ag eglwys Betws Garmon ac o dan Chwarel Hafod-y-wern ar fap cynharaf yr Arolwg Ordnans, 1888, ond nid yw'n amlwg a oedd yr adeilad hwnnw wedi gweithredu fel pandy, neu wedi cael ei enw yn sgîl adeilad cynharach. Yr oedd gwas fferm yn byw yno ym 1841; nid oedd neb yn byw yn yr adeilad y drws nesaf iddo - tybed ai'r hen bandy segur oedd hwnnw?[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
- ↑ Cyfrifiad plwyf Llanwnda, 1841