Garnfor

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Mynydd Garnfor)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

'Garn' a 'môr' yw'r ddwy elfen geir yn yr enw Garnfor. Dyma'r mynydd yng ngrŵp mynyddoedd Yr Eifl sydd agosaf at y môr, ac mae'n sefyll ar ddwy ochr ffin Uwchgwyrfai. Dywedwyd gan un llenor fod y mynydd hwn "â'i ben yn y cymylau a'i draed yn yr heli". Mae godre'r mynydd yn plymio'n glogwyn serth i'r môr ger Trwyn y Gorlech (ar fap) neu'r Fraich Las (ar lafar). Yr enw llafar ar Garnfor yw Mynydd Gwaith, oherwydd mai ar lethrau gogleddol y mynydd mae Chwarel yr Eifl, chwarel ithfaen fwya'r byd yn ei hanterth. Agorwyd y chwarel gyntaf yn y 1840au ar Graig y Farchas, yn sawdl y mynydd. Chwarel dwy bonc yn unig oedd hon.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau