Muriau Merched Engan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yn asesiadau'r Dreth Dir ddiwedd y 18g a dechrau'r 19g cyfeirir sawl gwaith at annedd o'r enw Muriau Merched Engan ym mhlwyf Llanwnda. Ar fap Arolwg Ordnans 1838 mae wedi ei nodi yn Rhostryfan ond mae'n anodd iawn gweld yr union leoliad ar hwnnw. Ceir ffurf yr enw yn weddol gywir ar asesiad y Dreth Dir ym 1770, sef Mirie merched Engan, ond ceir ffurfiau tra rhyfedd mewn asesiadau dilynol. Fodd bynnag, mae'n gywir fel Muriau merched Engan ar fap OS 1838. Mae'r elfen muriau yn awgrymu adfeilion ond ni all hynny fod yn gywir gan fod y lle ar ei draed a phreswylwyr ynddo ddiwedd y 18g a dechrau'r 19. Hefyd gwelir y ffurf muriau yn rhan o enwau lleoedd, neu fel enw ar ei ben ei hun, mewn ardaloedd eraill yn Llŷn ac Arfon. Ffurf ar yr enw priod Einion yw Engan ond, gwaetha'r modd, nid oes unrhyw beth yn hysbys am yr Engan hwn nac am ei ferched nas enwir. Y tebygolrwydd oedd nad oedd ganddo etifedd gwrywaidd a bod ei ferched wedi etifeddu'r lle ar ôl ei farwolaeth. Ceir enwau tebyg fel Cae Mab Ynyr yn Y Waunfawr a Cae Mab Adda ym Mangor. [1]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.203-4.