Moduron Castell

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Hyd y gwyddys, un bws oedd gan y cwmni hwn, Moduron Castell (neu "Castell Motors"). Y perchennog oedd Mr C.P. Jones, Castell Caeronwy, y Fron, ond rhedai'r bws ar hyd Dyffryn Gwyrfai yn cludo plant ysgol fel rheol. Am rai blynyddoedd ar ôl i gwmnni Moduron Express brynu'r bws ym 1970, fe'i cedwid ger Eglwys Betws Garmon. Fe baentiwyd y bws Bedford OB AJC 41 yn las golau a glas tywyllach.[1]. Hyd y gwyddys, ni wnaeth y cwmni hwn redeg unrhyw wasanaeth cyhoeddus.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau