Merbwll

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ffermdy bychan unllawr ym mhlwyf Llanaelhaearn yw Merbwll. Cafodd y rhan ganol, a adeiladwyd gyda cherrig mawr, ei chodi yn yr 16g os nad yn gynharach. Cafodd y lle tân, sy'n llenwi holl led y talcen uchaf, ei adeiladu'n ddiweddarach. Cafodd yr adeilad ei doi â gwellt yn wreiddiol ac yna gyda llechi bychain, trwchus yn y 18g mae'n debyg.