Melin Cae Mawr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Fe ymddengys fod Melin Cae Mawr yn felin ŷd ar Afon Gwyrfai ger ffermydd Cae Mawr a Thyddyn Parthle. Dichon iddi gael ei sefydlu yno yn y Canol Oesoedd neu'n fuan wedyn, ond roedd y safle'n anghysbell i ardalwyr Llanwnda a Llanfaglan oedd i fod i gael malu eu grawn yno, gan ei bod tua 2 filltir o'r tir gorau ar wastadeddau'r plwyfi hynny. Dywedir mewn achos llys o 1627 fod Melin y Bont-faen yng ngwaelodion y plwyf wedi ei chodi ychydig flynyddoedd ynghynt ac felly rhesymol yw tybio mai tua'r amser honno y caewyd Melin Cae Mawr.

Erbyn yr 17g, roedd ym meddiant Richard Evans, Elernion, ond roedd y ffrwd felin wedi cau â cherrig a dywedwyd fod yr adeilad mewn cyflwr mor sâl fel na fentrai neb y tu fewn iddo.[1]

Cyfeiriadau

  1. W.Gilbert Williams, Arfon y Dyddiau Gynt, (Caernarfon, d.d.) tt.130-1.