Melin Brynhafod
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Sonnir am Felin Brynhafod mewn llythyr gan John Roberts, tenant Brynhafod Fawr, Capel Uchaf at Arglwydd Newborough ym 1857. Dywedodd iddo helpu ei dad, David Roberts, tenant Brynhafod Isaf, i adeiladu melin yno. Nid yw'n eglur pa fath o felin ydoedd, nac ymhle yn union yr oedd: nid yw Brynhafod Isaf yn sefyll ar lan unrhyw nant neu afon o bwys.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Archifdy Gwynedd, XD2/25733.