Meini cwrlo

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae gwenithfaen Chwarel yr Eifl yn cael ei defnyddio, ymysg pethau eraill, i gynhyrchu meini cwrlo, y cerrig a ddefnyddir wrth chwarae cwrlo. Mae cwrlo'n debyg i fowlio ar iâ mewn ffordd, gyda'r chwaraewyr yn anelu cerrig trymion tuag at darged ar hyd arwyneb sydd wedi ei rewi. Mae'n gamp a chwaraeir yn y Gemau Olympaidd ac, yn 2002, cerrig o Drefor yn unig a ddefnyddid yn y gemau hynny. Trefor yw un o ddim ond dwy ffynhonnell o wenithfaen a ganiateir gan gorff llywodraethol rhyngwladol y gamp - y ffynhonnell arall yw ynys Creag Ealasaid (Ailsa Craig) yn Swydd Ayr yn yr Alban. Cyfyngir ar darddiad y cerrig er mwyn sicrhau safon gyfartal rhwng chwaraewyr, a dewiswyd gwenithfaen Trefor oherwydd ei lefel arbennig iawn o galedwch a'i gallu i beidio ag amsugno hyd yn oed y diferyn lleiaf o hylif.


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma