John William Jones, 'Y Drych'

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganwyd John William Jones ym Mryn Bychan, Llanaelhaearn ar 11 Ionawr, 1827, ac yn ifanc iawn bu'n was bach ar fferm Hendrefeinws, Y Ffôr. Yn fuan symudodd y teulu o Lanaelhaearn i Dy'n Llwyn, Llanllyfni. Cadwai William Jones, tad John, ysgol yn Llanllyfni am gyfnod.

Ym mis Mai 1845, yn ddeunaw oed, ymfudodd JWJ i America gyda chriw o Gymry siroedd Caernarfon a Meirionnydd. Cychwynasant mewn 'agerfad' o Borth yr Aur, Caernarfon, i Lerpwl, a llong wedyn o Lerpwl i Quebec. Cafodd John gwmni gwraig weddw o Lanaelhaearn a'i theulu ar y fordaith. Buont chwe wythnos ar y môr, ac yna treulio wythnos gyfan yn y quarantine yn Afon St. Lawrence. Pen y daith oedd Racine, talaith Wisconsin, ar lan Llyn Michigan - rhyw 10 wythnos o Gaernarfon.

Daeth yn gyfaill i un William Evans (Lockport, Illinois, yn ddiweddarach), a bu'r ddau ohonynt yn gweithio ar ffermydd yr ardal tan fis Hydref pryd y bu iddynt symud i le o'r enw Sag yn Illinois, rhyw 22 milltir i'r de-orllewin o Chicago. Cawsant waith ar y gamlas yno.

Ddeufis yn ddiweddarach, dychwelodd John i Wisconsin (heb William Evans) gan gerdded dros 80 milltir yno. Yn fuan bu'n crwydro i lawr Afon Mississippi gan ymweld ag Orleans Newydd a Vicksburg a lleoedd eraill.

Rhywbryd yn ystod 1846 cyrhaeddodd dalaith Efrog Newydd gyda'r bwriad o ddychwelyd i Gymru. Roedd ei hiraeth mor llethol. Gweithiodd dymor mewn gwaith brics yn Rochester ac yno y cyfarfu â Benjamin Lewis o Utica. Dylanwadodd hwnnw arno i symud i Utica yn hytrach nag i'r henwlad, a hynny a wnaeth gan gael gwaith fel saer dodrefn yno. Maes o law, daeth yn ohebydd Utica i bapur Y Drych, papur a gychwynwyd yn Efrog Newydd gan J.M.Jones ar 2 Ionawr 1851.

Yng ngwanwyn 1853 daeth JWJ i Efrog Newydd i ofalu am Y Drych gan roi cychwyn i gysylltiad (fel golygydd) a barhaodd hyd ddydd ei farwolaeth 32 o flynyddoedd yn ddiweddarach. Yn ogystal, bu'n cynorthwyo i olygu'r Cylchgrawn Cenedlaethol y gwelwyd ei rifyn cynta'n ymddangos o swyddfa'r Drych yng Ngorffennaf 1853. Fodd bynnag, doedd dim llawer o drefn ar Y Drych druan. Ym 1855 unwyd y papur â'r Gwyliedydd a gyhoeddid yn Utica dan olygyddiaeth y Parchedig Morgan A. Ellis. Ei enw bellach oedd Y Drych a'r Gwyliedydd, gyda Morgan Ellis a Gwilym ab Ioan yn olygyddion cynorthwyol i J.W.Jones. Ysywaeth, pur aflwyddiannus oedd y papur hwn hefyd.

Ddiwedd 1858 daeth y papur i feddiant personol J.W.Jones, ac fe'i ailenwyd yn Y Drych. Yn Chwefror 1859 daeth T.B.Morris (Gwyneddfardd) i lawr o Prospect i Efrog Newydd i gydolygu'r Drych â J.W.Jones. Ym Mehefin 1860 penderfynodd JWJ symud y papur i Utica, ac yno y bu tan 1864 pan aeth JWJ i ffwrdd i Ewrop. Dyna pryd yr ymunodd J.Mather Jones â Gwyneddfardd, ac yn Awst 1865 gwerthwyd Y Drych i J.Mather Jones, yr hwn a'i cyhoeddodd hyd ei farwolaeth yn Rhagfyr 1874. Yna aeth y papur i ddwylo T.J.Griffith.

Priododd J.W.Jones ddwywaith :

1. Mary Evans o Trenton, Efrog Newydd, ar 2 Ionawr 1850. Cawsant un mab, Palmer H.Jones. Bu farw Mary ar yr ail o Orffennaf 1874. Bu farw o drawiad ar y galon.

2. Catherine, merch y Parchedig Humphrey Humphreys, yn Nhachwedd 1880.

Bu farw John William Jones yn 58 oed ar 8 Hydref 1884 o drawiad ar y galon, a hynny am 6.15 y bore yng nghwt ei ardd. Fe'i claddwyd ym Mynwent Forest Hill, Utica. Tanysgrifiodd chwe chant o bobl tuag at godi cofgolofn fawr ar ei fedd, yn 10 troedfedd o uchder ac yn pwyso bron i bum tunnell.

Cyfeiriadau