John Heyden
Dyn busnes uchelgeisiol o Lerpwl oedd John Heyden, a sefydlodd y Cwmni Ithfaen Cymreig (Welsh Granite Company) ym 1844 i gynhyrchu cerrig plamantu (sets) yn yr Hen Ffolt yn Y Gorllwyn yn Nhrefor. Roedd criwiau bach o ddynion lleol eisoes wedi dechrau cynhyrchu sets ar raddfa fechan yno ychydig flynyddoedd cyn i Heyden (a adwaenid yn lleol fel y "Sais Mawr") ddod i fro'r Eifl. Ar 26 Mawrth 1844 fe wnaeth Heyden sicrhau prydles am 10 mlynedd gan y Lefftenant Cyrnol Thomas Peers-Williams, A.S., sgweier Craig-y-don, Llangoed, Môn, a oedd yn rhoi hawl gyfreithiol iddo gloddio am fwynau yn Y Gorllwyn, a chynyddodd y fenter dan ei oruchwyliaeth. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ar 13 Ebrill 1846, anfonodd Heyden lythyr at yr Arglwydd Newborough, Glynllifon, yn gwneud cais am brydles i gloddio am fwyn haearn ar Glogwyn y Morfa (Trwyn y Tâl) gerllaw'r Gorllwyn. Roedd Y Morfa'n eiddo i stad Glynllifon bryd hynny. Ni ddaeth dim o hynny ac nid arhosodd Heyden yn hir yn yr ardal. Gwerthodd y fenter tua 1849-50 ac, yn ôl rhai, agorodd chwarel yng nghyffiniau Caer ond aeth yn fethdalwr yn ddiweddarach. Nid oes unrhyw dystiolaeth i gadarnhau hynny fodd bynnag. Ceir rhagor o fanylion yn yr erthyglau ar Y Gorllwyn/Hen Ffolt a Chwarel Craig y Farchas yn Cof y Cwmwd. [1]
Cyfeiriadau
- ↑ Geraint Jones, Dafydd Williams, Trefor, (Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, 2006), tt.9-11.