Hugh Edward Williams

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bu Hugh Edward Williams yn Rheithor Plwyf Llanaelhaearn (m.1893) o 10 Ionawr 1879 hyd 1893.

Mab Hirdir, St. Ann's, Llandygái ydoedd, a chafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Genedlaethol Tyntŵr, ac yna bu'n gweithio yn Chwarel Cae Braich y Cafn (Chwarel y Penrhyn), Bethesda. Yn ugain oed gadawodd y chwarel ac aeth yn fyfyriwr yng Ngholeg Hyfforddi Athrawon Sant Mair yng Nghaernarfon. Bu'n brifathro yn Llanrug a Phenrhyndeudraeth am rai blynyddoedd wedyn.

Ym 1864 bu'n fyfyriwr yng Ngholeg St. Bees, ac fe'i hordeiniwyd yn ddiacon ar 24 Rhagfyr, 1865, ac yn offeiriad 23 Rhagfyr, 1866. Bu'n gurad Dolwyddelan o 1865 ac yn rheithor y plwyf yno o 1866, hyd ei sefydlu yn rheithor Llanaelhaearn ym 1879.

Bu farw trwy ddamwain echrydus ym 1893. Yr oedd ganddo felin eithin fechan a droid gan ddŵr. Un bore nogiodd y felin dan ofal gwas y rheithor. Gafaelodd Hugh Williams mewn pigfforch i lanhau o dan y peiriant, ond rhoddodd y peiriant andros o gic sydyn i'r pigfforch a gyrru ei choes i geilliau'r rheithor. O ganlyniad i'r ddamwain, bu farw Hugh E. Williams. Mae wedi ei gladdu ger mur Eglwys Llanaelhaearn.