Gwyneth ap Tomos

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dyffryn Nantlle gan Gwyneth ap Tomos
Traean yn y 1970au pan oedd yn gartref i Gwyneth

Ganwyd yr arlunydd Gwyneth ap Tomos (1937-2016) yng Nghaeathro. Fe'i magwyd ar dyddyn bychan Tŷ Gwyn yn y pentref. Ni chafodd addysg ffurfiol fel arlunydd ond datblygodd i fod yn arlunydd tirluniau nodedig, yn arbenigo ar luniau o olygfeydd a ffermydd yn ei hardal enedigol. Gwerthai luniau trwy eu harddangos ar waliau y caffi arnofol, y Lee-ho, yn harbwr Caernarfon, lle 'roedd hi'n gweithio.

Yn y man, wedi priodi ei hail ŵr, Dafydd, a oedd ar y pryd yn werthwr pysgod - cyn mynd i gadw siop sglodion yng Nghaernarfon - prynodd y ddau fferm Traean yn y Dolydd, Llanwnda - er mwyn tyfu tatws ar gyfer y siop, yn ôl yr hanes! Yn man, prynodd y ddau Siop Sglodion XL, Pen-y-groes a rhedeg honno am rai blynyddoedd yn y 1960au a 1970au. Tra yno, datblygodd Gwyneth ei dawn fel artist, ond fe'i trawyd â chanser yr ymennydd, a bu'n ddifrifol wael am gyfnod. Wedi gwrthod triniaeth radical, gwellhaodd ei hun trwy ddilyn cyngor llysieuol, gan fwyta llawer i bwys o foron bob dydd.

Ar ôl rhai blynyddoedd, gwireddwyd yr ysfa am agor oriel gelf a oedd yn ei hysbrydoli, pan wnaeth hi a'i gŵr, Dafydd, brynu Plas Glyn-y-weddw yn Llanbedrog er mwyn ei achub a'i hadfer fel oriel, pan oedd yr adeilad yn prysur fynd yn adfail. Gyda llawer o lafur cariad, fe agorwyd yr adeilad fel oriel gyhoeddus unwaith eto. Aeth y gost yn drech na chwpl preifat, ond sicrhaodd Gwyneth a Dafydd fod eu gweledigaeth yn parhau trwy drosglwyddo'r awennau i elusen.

Fel teyrnged i Gwyneth a Dafydd, mae un o’r ystafelloedd arddangos yn y Plas wedi’i henwi yn 'Oriel ap Tomos' ac mae arddangosfa barhaol yn y Plas yn olrhain eu hanes yn atgyweirio’r adeilad ac agor yr oriel.

Yn drist iawn, bu farw Gwyneth yn 2016 wedi ail frwydr ddewr gyda chanser a brofodd y tro hwnnw'n drech na hi.[1]

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Plas Glyn-y-weddw, [1], cyrchwyd 20.3.2025; gwybodaeth bersonol