George Baum

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd George Baum, o Drefor, yn ganwr gwerin o safon uchel. Fe'i magwyd ar aelwyd gerddorol, gyda'i fam, a'i galwai ei hun wrth yr enw llwyfan Llinos yr Eifl, yn gantores nodedig yn ei dydd. Bu George Baum yn amlwg ar lwyfanau eisteddfodau ledled Cymru am ddegawdau gan ennill llu o wobrau fel datgeiniad caneuon gwerin. Enillodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac mewn eisteddfodau o bwys, fel Eisteddfod Pantyfedwen ac Eisteddfod Powys, yn ogystal ag mewn eisteddfodau pentrefol. Ar lwyfan defnyddiai'r enw "Gwynfor" - a oedd hefyd yn enw ei fab. Roedd y cwpwrdd gwydr llawn cwpanau yn ei gartref yn tystio i'w lwyddiant. Yn ogystal â chystadlu roedd yn wyneb cyfarwydd mewn cyngherddau hefyd, a bu'n un o barti Wil Parsal a fu'n diddanu cynulleidfaoedd am flynyddoedd. Symudodd ef a'i briod o Drefor i fyw i'r Ffôr rai blynyddoedd cyn eu marw. Roedd chwaer George Baum, Lottie Ogwen Jones (Thomas yn ddiweddarach), hefyd yn gantores adnabyddus ac yn enillydd y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cyfeiriadau