Ffrwd Ysgyfarnog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Ffrwd Ysgyfarnog yn afonig fechan sydd yn codi ger pentref Bethesda Bach ym mhlwyf Llandwrog ac yn rhedeg ar hyd dyffryn bas a llydan wrth ochr yr A499 ac wedyn heibio i Capel Bwlan (MC). Cafodd treflan Ffrwd neu Ffrwd Ysgyfarnog ei henwi ar ôl yr afon. Mae'r nant yn llifo ymlaen ac yn croesi'r lôn o'r A499 i bentref Llandwrog ac wedyn ychydig i'r de o fferm Bodfan cyn ymarllwys ar draws y traeth i'r de o gaer Dinas Dinlle. Nid yw'n cael ei henwi ar fapiau Ordnans, ond sonnir amdani fel un o afonydd Sir Gaernarfon mewn disgrifiad o'r sir a ymddangosodd mewn papur newydd ym 1808. Yn ôl y disgrifiad yn yr erthygl honno, arferai pentref bychan sefyll ar ochr ogleddol aber Ffrwd Ysgyfarnog, nes i'r môr erydu'r tir, a'r pentref yn cael ei lyncu gan y tonnau. Erbyn heddiw, nid oes aber i'w weld, gan fod y nant yn diflannu i mewn i ro'r traeth. Dichon bod awdur yr erthygl hefyd wedi camddeall chwedl Caer Arianrhod gan feddwl mai pentref go iawn ydoedd.[1]

Y mae Map Ordnans 1888 yn dangos pwll yng ngheg yr afon ger y traeth a rhyw fath o ffos neu binfarch a allai fod yn olion melin o ryw fath. Roedd y nodwedd honno wedi troi'n gorsdir erbyn map 1899.

Cyfeiriadau

  1. North Wales Gazette, 14.7.1808, t.4