Ffrangcon Davies

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bu David Thomas Ffrangcon Davies (m.1918) yn gurad yn Eglwys San Siôr, Trefor, o 1884 hyd 1885.

Fe'i ganwyd ym Mount Pleasant, Bethesda, Arfon, ar 11 Rhagfyr 1855, yn fab i David a Gwen Davies, o blwyf St. Anns, Llandygái. Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Genedlaethol Pont-y-tŵr, Bethesda. Dysgodd Ladin a Groeg yn Ysgol Friars, Bangor, ac roedd yn blentyn hynod o gerddorol a galluog. Hoffai hefyd ddarllen ei Feibl a'i arwr mawr oedd Elias y proffwyd. (Fo gymerodd ran Elias yn yr oratorio Elijah yng ngŵyl gerdd Horringham, Swydd Efrog, ym 1890).

Cafodd le yng Ngholeg Iesu, Rhydychen ac yn ystod ei gyfnod yno ychwanegodd yr enw 'Ffrangcon' i'w enw oherwydd ei hoff le ar y ddaear oedd Nant Ffrancon gerllaw ei gartref ym Methesda.

Ym 1881 enillodd radd B.A. (Cafodd radd M.A. yn y flwyddyn 1887). Fe'i hordeiniwyd yn ddiacon yn Eglwys Llantysilio ar 18 Chwefror, 1883, ac yn offeiriad ar 3 Mawrth, 1884, gan yr Esgob James Caquhoun Cambell, Bangor. Yn Nhrefor y dechreuodd ar ei weinidogaeth a hynny ym 1884. Lletyai gyda theulu James Cooke yn y pentref.

O 1885 hyd 1887 bu'n gurad yng Nghonwy, a dyma pryd y cafodd wersi ar ganu'r organ gan Dr. Roland Rogers. O 1887 hyd 1892 bu'n gurad Eglwys St. Mary's yn Hoxton, Llundain. Ei athro llais erbyn hyn oedd gŵr o'r enw William Shakespeare! Ym 1889 priododd ag Annie Frances Rayner.

Oddi yno gadawodd y weinidogaeth a dilyn gyrfa gerddorol broffesiynol lwyddiannus dros ben fel canwr opera ac unawdydd o fri (bariton). Daeth yn adnabyddus trwy holl wledydd Ewrop ac America.

Ym 1904 fe'i penodwyd yn Athro yn yr Academi Frenhinol yn Llundain

Ond fe orweithiodd Ffrangcon Davies a bu'n rhaid iddo roi terfyn ar ei yrfa fel canwr ym 1907 a hynny yn yr Albert Hall yn Llundain. Bu farw ar 13 Ebrill, 1918, yn Ysbyty Bethlem, Llundain, yn 63 oed.

Fel hyn y dywedodd ei ferch, Marjorie Ffrangcon Davies, amdano yn ei llyfr a gyhoeddwyd ym 1938 - David Ffrangcon Davies : His Life and Book :

Besides being one of the greatest singers Britain has ever produced (the then conductor of the Berlin Philharmonic called him 'the greatest living Handel singer'), he was also a great teacher.  

Ychwanega :

A young Celtic dreamer who rose to the greatest distinction of his chosen art, who developed into a great spirit and an extraordinary man.

Cyhoeddodd Ffrangcon Davies Human Voice and its Management a The Singing of the Future (1905).