Thomas Jones (Eos Beuno)

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriwyd o Eos Beuno)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Thomas Jones (1849-1936), a ddefnyddiai'r ffugenw Eos Beuno, yn hanu o blwyf Llanwnda. Mab Ffatri wlân Bontnewydd ydoedd, a'i dad Daniel Jones (g.1805), a hanai o Lanbeblig, wedi cymryd y felin ar ôl symud o Sir Fôn gyda'i wraig, Anne o Fiwmares, tua thair blynedd cyn geni Thomas ym 1849. Roedd yn adnabyddus fel unawdydd, arweinydd cyngherddau ac adroddwr. Yn ddyn ifanc, roedd yn wehydd wrth ei waith bob dydd; mae'n debyg iddo weithio yn ffatri ei dad oedd gerllaw ei dŷ, sef un o dai Ynys Bont ger Capel Libanus (A), Y Bontnewydd, fel y nodir yng nghyfrifiad 1871. Erbyn 1881, roedd yn byw yn Lodj Plas-y-bryn. Roedd yn 31 erbyn hynny, a'i wraig Elizabeth yn 28. Ail wraig iddo oedd hi, wedi iddo golli ei wraig gyntaf Susannah. Roedd ganddynt ferch fach, Hannah, 10 mis oed.[1]

Erbyn 1891, roedd wedi newid ei alwedigaeth, gan iddo gael ei ddisgrifio fel deliwr mewn te a groser. Roedd yn dal i fyw yn y Lodj, ac erbyn hynny roedd tri mab ganddo ef ac Elizabeth. Erbyn 1911, roedd wedi mabwysiadu'r enw canol Beuno, ac yn byw yn 2 Rhes Libanus, Y Bontnewydd, gerllaw y Lodj, y lle a fu'n gartref i'r teulu.[2] Roedd yn dal i weithio fel gwerthwr te. Yn ystod 1886-7 bu'n wael iawn, a chodwyd y swm sylweddol (y pryd hwnnw) o £18 iddo mewn darlith a chyngerdd yng Nghapel Libanus.[3]

Ceir adroddiadau yn y papurau newydd lleol am berfformiadau ganddo yn gyson o'r 1870au ymlaen, gan deithio mor bell ag ardal Wrecsam.[4]

Roedd yn gefnder i'r cerddor amlwg, John Jones (Eos Bradwen), Caernarfon (1831-1899).[5]

Bu farw 30 Mai 1936, ac fe'i claddwyd ym Mynwent Bryn'rodyn.[6] Mae rhan o'i hunangofiant mewn llawysgrif a barddoniaeth o'i eiddo yn Archifdy Gwynedd.[7]

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiadau plwyf Llanwnda 1851-1881
  2. Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1891, 1911
  3. Y Genedl Gymreig, 28.12.1887, t.6
  4. 'Wrexham and Denbighshire Advertiser, 29.12.1877, t.6
  5. Y Bywgraffiadur Ar'lein, cyrchwyd 26.9.2025; Y Genedl Gymreig, 6.6.1899, t.5
  6. Gwefan Find a Grave, cyrchwyd 25.9.2025
  7. Archifdy Gwynedd, XM/11681