Elwyn Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Canwr bariton adnabyddus a fagwyd yn Nhyddyn Drain ym mhlwyf Llanaelhaearn oedd y diweddar Elwyn Jones. Meddai ar lais llawn a chyfoethog ac, yn dilyn ei lwyddiant mewn eisteddfodau mwy lleol, daeth i sylw cenedlaethol pan enillodd y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Llangefni ym 1957. Cyhoeddodd nifer o recordiau ar label Recordiau'r Dryw yn y 1960au a'r 1970au ac ymddangosodd ei record hir gyntaf gan gwmni Sain ym 1977. Ei brif arlwy fel canwr oedd emynau poblogaidd - llawer ohonynt yn emynau'r diwygiad - a chaneuon crefyddol eu natur. Y gân yr adwaenid ef wrthi orau oedd Geir fy enw i lawr a byddai cais yn sicr iddo ganu honno mewn cyngerdd neu gymanfa. Roedd yn wyneb cyfarwydd hefyd fel arweinydd cymanfaoedd canu a byddai'n canu cân y cadeirio yn flynyddol yn Eisteddfod Aelhaearn. Bu hefyd yn canu deuawd gydag Arthur ei frawd. Cyhoeddwyd recordiau ohonynt fel deuawd ac fe'u cofir yn bennaf am eu dehongliad o'r gân boblogaidd Lle Treigla'r Caveri. Yn 2008 cynhyrchodd Cwmni Sain gryno ddisg o 20 o ganeuon gorau Elwyn Jones a recordiwyd yn ystod y degawd 1967-1977. Wedi iddo briodi ymgartrefodd Elwyn Jones yn Llanbedrog yn Llŷn lle treuliodd weddill ei oes.[1]

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol