Elwyn Hughes, Trefor
Mab hynaf y diweddar Hywel a Margaret Hughes, Gwynlys, Trefor, ydi Elwyn Hughes. Mae ganddo un brawd yn byw ym Mhwllheli, Gwyndaf, athro gwaith coed wedi ymddeol.
Yn ifanc iawn disgleiriodd Elwyn mewn dau faes – pêl-droed a cherddoriaeth. Enillodd gap cenedlaethol fel aelod o dîm pêl-droed Ieuenctid Cymru, ac fe’i derbyniwyd i fod ynghlwm â chlwb enwog Tottenham Hotspur (Spurs) yn Llundain. Bu ar eu llyfrau am bedair blynedd, ond maes o law bu raid iddo ddewis rhwng pêl-droed a’i gamp fawr arall, cerddoriaeth.
Dechreuoedd ei ddawn gerddorol flodeuo fel organydd hyfedr yng Nghapel Gosen (MC), Trefor, pan yn fachgen ysgol, ac fel trombonydd galluog yn seindorf y pentref. Yn ddeunaw oed aeth yn fyfyriwr i Ysgol Gerdd y Guild Hall yn Llundain i’w gymhwyso’i hun yn athro cerdd. Buan y gwelwyd fod yma ddawn ddisglair dros ben a bu’n aelod cyson o gwmni enwog a phoblogaidd y Black & White Minstrels am oddeutu dwy flynedd. Tra gyda’r Minstrels cyfarfu â merch ieuanc hardd o Gaint, Judy, oedd yn aelod o’r Television Toppers (am wyth mlynedd). Ymddangosai’r Toppers a’r Minstrels yn rheolaidd ar y teledu ddiwedd y 50au a dechrau’r 60au. Priodwyd y ddau.
Treuliodd Elwyn ddwy flynedd yn rhan o gwmni gwreiddiol My Fair Lady yn Drury Lane, Llundain, ac am gyfnod bu’n aelod o’r Square Pegs yn y London Palladium. Bu’n perthyn hefyd i grŵp o dri oedd yn arbenigo mewn caneuon Negroaidd.
Ym 1966 bu ar daith arbennig iawn yn diddanu milwyr Americanaidd yn Ffrainc a’r Almaen. Pan ymddeolodd, daeth ef a’i wraig i gadw gwesty ym Mangor. Mae’n dal i fyw ym Mangor (Ionawr 2025).