Dôl Meredydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Dôl Meredydd yn gasgliad bach o dai ar y ffordd gefn o Glan-rhyd i Llandwrog. Cymerwyd yr enw oddi wrth fferm Dôl Meredydd sydd gerllaw.

Mae'n sefyll ar ddwy lan Afon Carrog o bobtu'r ffin rhwng plwyfi Llandwrog a Llanwnda, lle ceir Pont Pant-y-rhedyn, (y mae Pant-y-rhedyn yn gyferbyn â Dôl Meredydd yr ochr arall i'r afon).. Prif nodwedd y pentrefan bach hwn heddiw yw'r rhes fer o dai a godwyd fel tai cyngor ar gyfer gweithwyr amaethyddol ynystod y 1930au, mae'n debyg.

Cymerwyd yr enw oddi wrth fferm Dôl Meredydd sydd gerllaw. ym 1851, roedd cigydd o'r enw Robert Jones, 60 oed yn byw yno gyda'i wraig Mary a'u merch, Martha.[1] Bu'r yn gartref i un o hen deuluoedd plwyf Llandwrog a cheir eu hachau ymysg papurau W. Gilbert Williams yn Archifdy Caernarfon. Mewn cyfnod diweddarach, bu'r tŷ'n gartref i'r Prifardd Manon Rhys a'i gŵr, Richard Morris Jones.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad Llandwrog 1851