Dyfed Thomas

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bu Dyfed Thomas (m.1965) yn Ddarllenwr Lleyg yn Eglwys San Siôr, Trefor, o 1915 hyd 1932. Yn ystod ei gyfnod yma lletyai ym Morawel, cartref Mr. a Mrs. Robert Jones. Priododd â Megan, merch y Parchedig W.G. Jones, Rheithor Plwyf Llanaelhaearn o 1922 hyd 1947.

Ym 1932 symudodd i fyw i Lerpwl, a bu'n Ddarllenwr Lleyg yno hefyd. Wedi iddo ymddeol, daeth i fyw i Langefni, Môn, ac yno bu farw ym 1965.