Dreinias

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Enwyd Y Ddreinias gan W. Gilbert Williams fel hen fferm a oedd unwaith nid nepell o Blas Dinas yn Llanwnda, ond sydd wedi diflannu ers amser maith. Ym 1798-9 enwir Ddreinias fel un o gaeau Plas Dinas (Casgliad y Faenol, Gwasanaeth Archifau Gwynedd). Cyfeiriwyd at y fan fel Tyddyn y Ddreinioes ym 1606 (Gasgliad Poole, GAG) mewn copi o ewyllys Henry Rowlands, Esgob Bangor, a oedd yn berchen y lle ar y pryd. Nodwyd Plasyndreinias ar ddechrau'r 19g yng Nghasgliad Newborough, Glynllifon ac o'r un casgliad ceir y ffurf Ddreinias tua 1815. Mae'n bosib mai dreinios/dreinos a geir yma, fel ffurf fachigol luosog draen/draenen i gyfleu rhywle lle roedd llawer o fân ddrain - nid enw canmoliaethus i unrhyw fferm yn sicr.[1]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.144-5.