Diwygiad Cwm Coryn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cychwynnodd diwygiad yng Nghapel Cwm Coryn ym 1831. Mae Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon yn cofnodi'r digwyddiad yn ei hunangofiant. Ym mis Tachwedd 1831, meddai, torrodd y diwygiad mwyaf a welwyd yn ystod y 60 mlynedd diwethaf allan yng Ngwm Coryn, pan nad oedd neb yn ei ddisgwyl. Cyhoeddwyd fod Thomas Pritchard, y Nant, i bregethu yno un noson. Doedd o ddim yn adnabyddus fel diwygiwr. Ni wnaeth gadw ei gyhoeddiad ac felly cynhaliwyd cyfarfod gweddi. Ynddo digwyddodd rhywbeth mor bwerus fel y cafwyd llawenhau trwy'r adeilad ymysg hen aelodau a rhai nad oeddynt yn aelodau o gwbl.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Robert Hughes, Hunan-Gofiant ynghyda Phregethau a Barddoniaeth y Diweddar Barch. Robert Hughes, (Robin Goch), Uwchlaw’rffynon, (Pwllheli, 1893) tt.33-5