Dinas y Pryf

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dinas y Pryf o'r gogledd

Mae Dinas y Pryf yn safle amddifynnol ym mhlwyf Llanwnda, wrth y lôn sy'n rhedeg o gyfeiriad Rhedynogfelen i Felinwnda. Sillefir yr enw'n "Dinas y Prif" weithiau.

Mae'n lloc (enclosure) Rhufeinig ym mhlwyf Llanwnda yn ôl yr astudiaethau diweddaraf. Amgylchynnir y lloc hwn gan ffos a chlawdd allanol, ac mae pob congl o’r lloc yn codi tua 4 troedfedd i greu tomen gylchog.

Credir i’r lle hwn fod yn lleoliad o bwys yn ei gyfnod, ac o bosib wedi bod yn gartref neu’n ganolfan filwrol i arweinydd.[1]

Mae olion math o gytiau neu anheddau sy'n dyddio o Oes yr Haearn ar y safle. Mae hefyd rhywfaint o ôl mwnt o'r Canol Oesoedd yma hefyd. Mae ar ffurf sgwâr wedi ei amgylchynu gan ffos a chlawdd, 168tr wrth 156tr. Ar y pedair cornel mae pentwr o bridd tua 4tr o uchder.[2]

Safle archaeolegol yng nghymuned Llanwnda, Gwynedd, yw Dinas y Pryf[1] (map OS: Dinas y Prif), lle ceir olion math o gytiau aneddog hynafol sy'n dyddio'n ôl i Oes yr Haearn; cyfeiriad grid SH464577. Enw arall ar y math hwn o heneb yw Cytiau'r Gwyddelod, sy'n enw camarweiniol. Ceir olion mwnt canoloesol ar y safle hefyd.[3]

Mae CADW yn hawlio bod y safle'n bwysig oherwydd ei fod yn dangos tystiolaeth o drefniadau amddiffynnol ac anheddau'r Rhufeiniaid.[4]

Mae traddodiad lleol yn honni mai dyma oedd preswylfod dyn o'r enw Gibor, Goidel neu Wyddel, ond ni wyddys dim oll amdano fel arall.[5]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd [1]
  2. Comisiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf ii, (Llundain,1960) tt.224-225
  3. Wicipedia [2]
  4. Gwefan Ancient Monuments.uk, [3]
  5. Comisiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf ii, (Llundain,1960) t.225