Dechrau Canu 1994

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ar nos Fawrth yr 22ain o Dachwedd, 1994, ar noson ystormus iawn, recordiwyd y rhaglen Dechrau Canu, Dechrau Canmol yn Eglwys Siôr Sant yn Nhrefor. Cwmni Teledu Intrada (ar ran S4C) oedd â gofal am y rhaglen, a'r cyflwynydd oedd y Parchedig Meurwyn Williams. Arweiniwyd y canu gan Geraint Jones, a chyfeiliwyd gan Seindorf Trefor. Dyma'r emynau a ganwyd,

1. Diolch i Ti, yr Hollalluog Dduw (Tôn : Diolch i Ti)

2. Dyma Geidwad i'r colledig (Tôn : Caersalem)

3. Am graig i adeiladu (Tôn : Kilmorey)

4. O! Dragwyddol Graig yr oesoedd (Tôn : Llwynbedw)

5. Mae d'eisiau Di bob awr (Tôn : Mae d'eisiau Di)

6. Mae'r wawr yn torri, forwr (Tôn : Tyn am y lan)

7. Dewch, frodyr, un fryd (Tôn : Cysur)

8. Wel, f'enaid, dos ymlaen (Tôn : Malvern)

9. Gwagenni Penmaen-mawr : Cerdd Dant gan ddisgyblion hynaf Ysgol yr Eifl, Trefor. Telynores : Alwena Roberts


Cyfeiriadau