Cwmni Omnibws Seren Dyffryn Nantlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Gwasanaeth bws Seren Dyffryn Nantlle oedd y cyntaf i redeg o Gaernarfon ar hyd Dyffryn Nantlle i Nantlle ei hun, gan gystadlu efo'r trên a redai hyd orsaf Nantlle ym mhentref Tal-y-sarn. Prynodd y perchnogion hen gar Model T Ford ar ôl diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a gosod corff newydd arno er mwyn cario hyd at 14 o bobl. Aeth y gwasanaeth rhagddo heb fawr o sylw na helynt nes iddo gael damwain un nos Sadwrn tua 1927 pan fu mewn gwrthdrawiad â buwch ar y lôn. Malwyd y cerbyd yn yfflon, ond ni anafwyd neb o'r teithwyr yn ddrwg. Yr wythnos wedyn, cynigwyd y gwasanaeth i Foduron Seiont a nhw oedd yn gyfrifol am redeg bysiau i Nantlle am 6 mlynedd, nes iddynt werthu eu bysiau i Gwmni Crosville.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gwefan Nantlle.com, erthygl gan Michael Owen [1]