Cwmni Moduron Caernarfon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Un o'r cwmnïau bysiau cynharaf i redeg o Gaernarfon i Lanaelhaearn a Phwllheli oedd Cwmni Moduron Caernarfon (neu'r Carnarvon Motors Ltd.). Dywedir mai ym 1909 y cychwynnwyd rhedeg bws rhwng Caernarfon a Dinas Dinlle a'r un flwyddyn fe sefydlwyd y gwasanaeth i Lanaelhaearn, er na ffurfiwyd y cwmni'n swyddogol tan 1910.[1]. Nid oedd ymestyn y gwasanaeth i Lanaelhaearn yn syndod, gan fod John Hughes, Brynarlais ac Augustus Henry Wheeler, Plas yr Eifl, y ddau yn byw ym mhlwyf Llanaelhaearn, ymysg cyfarwyddwyr y cwmni. Un bws, y "Moto Glas", oedd yn darparu'r gwasanaeth, ac fe'i cedwid mewn cwt arbennig yng Nglan-rhyd, Llanaelhaearn.

Mae manylion y gwasanaethau cynnar i Lanaelhaearn a Phwllheli yn llyfr Geraint Jones, Trefor. Ymddengys, fodd bynnag, na ddarperid gwasanaeth derbyniol, yn arbennig gan nad aethai'r bws i mewn i bentref Trefor.[2]. Ceir amserlen yn y Genedl Gymreig ar gyfer Medi 1916 sydd yn dangos eu gwasanaeth trwy Uwchgwyrfai. Rhedai'r cwmni fysiau i Fethel, Ebeneser (Deiniolen) a Dinorwig (Llwybr Taith 2); a'r Waunfawr, Rhyd-ddu a Beddgelert (Llwybr Taith 3).[3] . Ond o'r teithiau hyn i gyd, y daith i Lanaelhaearn oedd y gyntaf, gan fod cofnod ar gael i'r cwmni gychwyn rhedeg char-a-bancs Thorneycroft rhwng Caernarfon a Llanaelhaearn yn ystod misoedd olaf 1909 neu'n gynnar ym 1910.[4]

Amserlenni cynnar (1910 a 1916)

Amserlen yn y Carnarvon & Denbigh Herald Amserlen yn y Genedl Gymreig


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Atlas Sir Gaernarfon (Caernarfon 1954)
  2. Geraint Jones, Moto Coch, Moto Ni (Llanrwst, 2012), tt.24-6
  3. Y Genedl Gymreig, 19 Medi 1916, t.8.
  4. Motorbus World, 31 Mawrth 1910