Cwmni Bysiau Busy Bee
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Cwmni o Gaernarfon oedd Cwmni Bysiau Busy Bee. Richards oedd cyfenw'r perchennog. Fe werthwyd y cwmni i Gwmni Bysiau Crosville yn ystod mis Tachwedd 1925. Roedd ganddynt ddwy brif daith, o Gaernarfon i Borthmadog a Phwllheli, yn ogystal â theithiau i Lanberis a Dinorwig.[1]. Rhoddodd Crosville rif 535 ar eu taith i Bwllheli, a 538 ar y daith i Borthmadog.[2]
Wrth werthu'r cwmni, trosglwyddwyd pedwar bws i Gwmni Crosville:
- bws AEC, model 503, 36 o seddau, rhif CC 5011, y rhoddwyd rhif fflyd 197 iddo gan Crosville.
- bws AEC, model 505, 32 o seddau, rhif CC 5124, y rhoddwyd rhif fflyd 198 iddo gan Crosville.
- bws Lancia Pentaiota, 26 o seddau, rhif CC 4860, y rhoddwyd rhif fflyd 199 iddo gan Crosville.
- bws Lancia Pentaiota, 26 o seddau, rhif CC 4958, y rhoddwyd rhif fflyd 200 iddo gan Crosville.
Dichon nad oedd y ddau Lancia yn plesio'r cwmni newydd, gan i'r ddau gael eu gwerthu ym 1926. Cafwyd gwared ar yr AEC cyntaf ym 1928 ond parhaodd y llall i gael ei ddefnyddio hyd 1931.[3]
Ceir llun da o un o'r bysiau Lancia ym Mhorthmadog ym 1925 ar dudalen Flickr Martin Pritchard, [4].