Cwmni Bysiau Berwyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cwmni bysiau o Drefor yw Cerbydau Berwyn. Fe'i sefydlwyd yn y 1980au gan Brian a Marina Japheth a dewiswyd yr enw Berwyn ar y cwmni gan mai dyna enw eu cartref yn Ffordd Sychnant, Trefor. Dechreuodd ar raddfa fechan gerllaw eu cartref gyda dau neu dri o fwsiau mini, ond buan y tyfodd ac y datblygodd yn gwmni sylweddol a, chydag amser, daeth eu plant hefyd i ymwneud â'r fenter. Wrth i'r cwmni dyfu fe wnaethant brynu darn o dir, a fu gynt yn rhan o'r Weirglodd Fawr (lle byddai tomennydd o gerrig sets yn cael eu stacio ar un adeg pan oedd Chwarel yr Eifl yn ei hanterth) ger hen "Offis y Gwaith" fel y'i gelwir, i gadw eu cerbydau, a lle safai rhai o hen adeiladau'r chwarel fe godwyd garej sylweddol i drin y bysiau. Erbyn hyn mae gan y cwmni tua phump ar hugain o fysiau o wahanol faint ac yn wyn eu lliw, ac mae wedi dod yn gyflogwr pwysig yn yr ardal, fel cwmni Clynnog a Trefor (y Moto Coch). Mae Cerbydau Berwyn yn rhannu'r gwasanaeth bysiau cyson o Drefor i Bwllheli a Chaernarfon gyda'r Moto Coch ac maent yn rhedeg gwasanaethau eraill i Lŷn ac Eifionydd, yn ogystal â darparu bysiau ar gyfer ysgolion, colegau ac achlysuron arbennig.[1]

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol