Craig Cwm Du
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Craig Cwm Du yw'r enw ar y clogwyn tua hanner milltir o hyd sydd yn wynebu'r gogledd ym mhen uchaf Cwm Du ar lethr Mynydd Mawr. Disgrifir y graig hon fel un sydd yn "cael ei hanwybyddu i raddau rhyfeddol" gan fod dwsin o ddringfeydd heriol a hir wedi eu nodi ar ei hwyneb.[1]
Ger pen gorllewinol y clogwyn mae pump o gloddfeydd arbrofol lle bu rhai'n chwilio am fwynau rywbryd yn ystod y 16-19g.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma