Coed Ffynnon Edliw

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Nodir Coed ffynnon-edliw ar draws y ffordd o blas Glynllifon ar y mapiau Ordnans diweddaraf. Nid yw'r gair edliw yn yr ystyr o ddannod neu geryddu yn gwneud fawr synnwyr yn achos ffynnon. Ceir cofnod o Coed ffynnon hadlu ym 1751. Ni cheir y gair hadlu yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru, ond ceir hadle sy'n golygu meithrinfa blanhigion. Mae'n bosib y bu un o feithrinfeydd y plas ar y llecyn hwn ond cred Glenda Carr ei bod yn annhebygol iawn mai dyna yw ystyr yr elfen hon. Mae hi o'r farn fod y ffurf edliw yma yn deillio o enw personol gwrywaidd Hoedlyw y gwelir sawl enghraifft ohono yn yr oesoedd canol. Yn aml dilynir enw ffynnon gan enw personol, megis Ffynnon Fair, Ffynnon Beuno etc., ac mae'n bosib iawn mai gŵr o'r enw Hoedlyw a goffeir yn enw Coed ffynnon-edliw ond fod pob gwybodaeth fel arall amdano wedi mynd yn angof.[1]

Mae'n amlwg bod y goedwig hon yn cael ei henwi ar ôl y ffynnon sydd gerllaw, sef Ffynnon Edliw, hen ffynnon yr honnir iddi fod yn un o fannau pwysig ar Lwybr y Pererinion ar y ffordd i Enlli. Nid amherthnasol yw'r ffaith fod Betws Gwernrhiw, hen lety y pererinion, gerllaw iddi.

Cyfeiriadau

.

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.124-5.