Clwb Carmel

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cymdeithas Gyfeillgar oedd Clwb Carmel a sefydlwyd (mae'n debyg) rywbryd tua 1840 ac a ffynnai hyd yr 1870au. Ei diben oedd estyn cymorth i'w haelodau pan gawsent gyfnodau anodd o ran tlodi, profedigaeth neu afiechyd. Yn aml, bu cymdeithasau o'r fath hefyd yn codi eu proffil trwy gynnig esgus am adloniant, gan drefnu gwyliau a gorymdeithiau. Yn aml roedd aelodau'n gwisgo dillad arbennig, ac yn cario baneri ac ati ar adegau o'r fath. Ffurfiwyd Band Carmel ym mhentref Carmel ym mlynyddoedd olaf y 1870au a hynny mewn cysylltiad â Chlwb Carmel. [1]

Ychydig sydd ar glawr am y Clwb. Dichon mai ei enw swyddogol oedd "Carmel Friendly Society" neu rywbeth o'r fath, ond "Y Clwb" oedd pawb yn ei alw. Ym 1877, ysgrifennodd William Evans, a oedd wedi ymfudo tua 1844 o Lanllyfni i Lockport, Illinois yn yr Unol Daleithiau, hanes un orymdaith gan y Clwb i Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni pan oedd o'n hogyn ifanc - yr oedd yntau wedi mynd yno i glywed Robert Ellis (Llyfnwy) ei fas dwbl, neu "fâs y ddeiol". Dyma ran o'r hanes a ymddangosodd yn Y Drych, papur Cymraeg Gogledd America:

Yr ydwyf yn cofio pan oeddwn oddeutu naw oed, nad oedd byw i mi, am gryn amser, heb gael myned i'r Llan i glywed y "cantwrs yn canu gyda'r Fas y ddeiol." Ac wedi crefu a chrefu am hir amser, dywedodd fy ewythr y byddai Clwb Carmel (i'r hwn yr oedd ef yn perthyn), yn cerdded i'r Llan y dydd Iau Dyrchafael nesaf, ac y byddai y Person yn pregethu iddynt, ac y cawn innau fynd yno i weled y clwb, ac i glywed y Fâs y ddeiol yn "canu." Wedi disgwyl a disgwyl am wythnosau, dydd Iau Dyrchafael a ddaeth, a ffwrdd â mi i lawr i'r pentref, awr neu fwy cyn yr amser i'r clwb ddod yno, ac eisteddais ar ben clawdd y fynwent gyda phlant eraill, rhwng y porth a'r personau, i'w ddisgwyl. Ymhen hir a hwyr, dyma rywun yn dyfod i fyny oddi wrth Bont y Felin, ac yn dweud, “Y maent newydd adael Penygroes.” Cyn hir daeth herald arall, yn rhedeg bron allan o wynt, ac yn gwaeddi, “Ma' nhw'n dwad, ma' nhw'n dwad, mae'u pen ôl ar Bont y Ffatri, a'u pen blaen wrth dy Robyn yr Aer;” ac yn fuan daethant i'r golwg yn y troad oedd yn y ffordd rhwng Pont y Felin a Phen-bryn Moch; ac yn wir, yr oedd yr olwg arnynt yn ardderchog. Yr oeddynt yn cerdded bob yn bedwar, a phob un yn cario pastwn coch, oddeutu chwe' troedfedd a hanner o hyd, a chnap, crwn, melyn, gymaint ei swm a dwrn ar ei ben, a ruban coch oddeutu dwy fodfedd o led am het pob un, wedi ei glymu y tu ôl, ac enw y gymdeithas mewn llythrennau duon arno o'r tu blaen; ac yr oedd y Person yn cerdded ei hunan o'u blaen, a chanddo sash goch fawr, oddeutu pedair modfedd o led. Aeth yr orymdaith heibio a thrwy borth y fynwent, ac i'r Llan, ac es innau gydag amryw o'r hogiau, i mewn ar eu holau... Aeth y gwasanaeth drosodd, ond nid ydwyf yn cofio gair o honno, na dim arall, ond yn unig am sŵn y Fas y ddeiol, a bod pob un o bobl y clwb yn dal ei het ar ben ei bastwn. Yr oedd yn yr orymdaith honno ryw gymaint dros ddau gant.[2]

Yn ôl William Evans, aeth y Clwb "i lawr" nes iddo ddod i ben, a rhannwyd yr arian oedd yn weddill yn y gronfa ymysg yr aelodau. Os yw Evans yn gywir yn hynny o beth, rhaid bod y Clwb wedi ei ail-sefydlu yn y 1870au, oherwydd yr hanes am y band.


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Geraint Jones, Cyrn y Diafol (2004)
  2. William Evans yn Y Drych, 13.9.`1877, t.2