Cloc Haul Clynnog-fawr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Saif Cloc Haul Clynnog Fawr ger drws orllewinol a thŵr Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr er nad yno yr oedd ynsefyll yn wreiddiol. O osod y cloc ar yr ongl gywir i'r haul, a ffon trwy'r twll ar ei wyneb, mae cysgod y ffon yn gorwedd ar amser y dydd.

O Lyn y Gele y daeth y cloc haul hynod hwn sydd ym mynwent Eglwys Clynnog Fawr, y tybir ei fod yn dyddio o’r wythfed neu’r nawfed ganrif. “Mae yna bistyll yng ngardd Llyn Gela a’r dŵr yn rhedeg iddo o Lleuar Bach ac roedd yna do bach dros y pistyll,” meddai W. Vaughan-Jones. “Be’ oedd o ond hen, hen gloc haul, a phan ddeallodd Frederick George Wynn, Glynllifon, beth oedd o, mi ofynnodd i ‘Nhaid a gâi ei godi a’i roi i Eglwys Clynnog. Dyna a fu ac mi gododd Glynllifon gwt dros y pistyll.” Tua chanrif ynghynt roedd y cloc wedi cael ei ddefnyddio fel pont i groesi ffrwd Melin Glan-Môr, Aberdesach.[1]

Cyfeiriadau

  1. Nancy Edwards, A Corpus of Early Medieval Inscribed Stones and Stone Sculpture in Wales, Cyfrol III North Wales,(Caerdydd, 2013) tt. 264-6.