Chwedl Ynys yr Arch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwedl yw hanes enw Ynys yr Arch, ger Bwlchderwin, Clynnog-fawr.

Credir i’r lle hwn gael ei enwi ar ôl marwolaeth Beuno Sant. Gan fod cymaint yn mynnu y dylid ei gladdu yng Nghlynnog, yn Aberffraw ac ar Ynys Enlli – roedd ansicrwydd ynglŷn â lle roedd am ei gladdu mewn gwirionedd. Roedd dynion yn cario ei arch ger y llecyn yma o dir, ger Bwlchderwin, ac un noson rhoddwyd gorau i’r daith am ychydig er mwyn iddynt orffwys. Yn ôl adroddiad W.R. Ambrose, pan wnaethant godi ymhen tipyn i ailgychwyn ar eu taith, dyma’r dynion yn sylweddoli fod tair arch bellach yn y man lle roedd arch Beuno, ac nid un. Fe wnaethant sylweddoli fod Beuno, trwy ryw ryfedd wyrth, wedi rhannu ei gorff i dair arch fel bod modd ei gladdu yn y tri lle arbennig a nodwyd uchod. Dyma sut y daeth y man hwn i gael ei alw'n "Ynys yr Arch".

Cymerwyd yr enw fel enw ar yr ysgol genedlaethol a godwyd yma yng nghanol y 19g, sef Ysgol Ynys-yr-arch.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Ffynhonnell

Ambrose, W. R. ‘’Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle’’ (Penygroes, 1872)