Chwedl Ffynnon Digwg

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwedl yw’r stori am Ffynnon Digwg. Enwir ffynnon ar ôl Digwg ar dir Pennarth, Clynnog Fawr, sef Ffynnon Ddigwg. Enw iawn Digwg (a bwrw ei bod hi'n berson hanesyddol go iawn) oedd Tegiwg ferch Ynyr Gwent, ac fe'i ganed yn y flwyddyn 590 O.C.

Credir i'r chwedl gael ei seilio ar ddigwyddiadau yng nghyfnod Beuno Sant yn nechrau'r 7fed ganrif. Yn ôl adroddiad W. R. Ambrose, roedd dyn ifanc o hen faenor Pennarth wedi mynd i Aberffraw i weithio, ac yno cyfarfu â merch o Lys Ynyr Gwent. Bu i’r ddau briodi, a daeth y gŵr ifanc a’i wraig newydd adref i’w gartref ger Pennarth. Ar ôl y siwrne hirfaith, roedd y ferch wedi syrthio i gysgu yn ei chartref newydd, ac ar ôl edrych ar ei gartref roedd y gŵr ifanc yn teimlo cywilydd oherwydd ei fod mor wael a thlodaidd a theimlai nad oedd yn gwneud cyfiawnder â'i wraig newydd. Mewn pwl o wallgofrwydd, llofruddiodd ei wraig tra roedd yn cysgu a thorodd ei phen i ffwrdd.

Wedyn aeth yntau oddi cartref i weithio, gan adael corff ei wraig yn y tŷ gan anghofio popeth am yr hyn a ddigwyddodd y noson honno. Yna, digwyddodd i fugeiliaid Beuno Sant gerdded ger cartref y gŵr ifanc, a darganfuwyd corff drylliedig y ferch. Rhoddwyd gwybod i Beuno ar frys, a daeth yno i weld beth oedd wedi digwydd. Wrth weld corff y ferch ifanc, gweddiodd drosti yn y gobaith y byddai gwyrth yn rhoi ei bywyd yn ôl iddi. Daeth ei obeithion yn wir, a daeth bywyd yn ôl iddi ar unwaith, ac addawodd wasanaethu ar Beuno fel diolch iddo am ei hatgyfodi.

Yn y man lle llofruddiwyd y ferch, a lle bu iddi gael ei chyfodi yn ôl yn fyw gan Beuno – cododd ffrwd o ddŵr ac yma adeiladwyd Ffynnon Digwg, a’i henwi ar ôl y ferch.[1]

Fersiwn arall o'r un stori a geir mewn ffynonellau eraill, er bod y stori'n amlwg yr un un. Dyma un a adroddir yn lleol heddiw: Y chwedl am dywysoges a’i chariad ar eu ffordd i Aberffraw er mwyn iddi hi gyfarfod â’i deulu ef. Ond yn hytrach na chyfaddef ei fod wedi ei thwyllo a’i fod yn hanu o deulu tlawd penderfynodd y cariad dorri ei phen a dianc gyda’i cheffylau a’i haur a’i harian. Pwy a ddigwyddodd weld corff Digwg ond bugeiliaid Beuno a rhuthrasant i chwilio amdano. Llwyddodd Beuno i osod ei phen yn ôl a'i hadfywio a tharddodd ffynnon yn yr union fan. Treuliodd Digwg weddill ei hoes yng Nghlynnog.[2]

Yn llyfr Francis Jones wedyn, ceir y wybodaeth ganlynol sydd yn ceisio esbonio enw'r ffynnon. Roedd gweithiwr o Ynys Môn yn gweithio yn llys y Brenin Ynyr, ac fe sicrhaodd fod y Brenin yn meddwl cymaint ohono fel y byddai'n rhoi ei ferch, Digwg, iddo'n wraig. Ar eu ffordd adref, roedd y gŵr o Fôn yn dechrau poeni y byddai ei wraig, y dywysoges, yn darganfod pa mor ddistadl oedd ei statws cymdeithasol. Arhosent ger Pennarth i dreulio'r nos a thra oedd y ferch yn cysgu, torrodd ei gŵr ei phen i ffwrdd. Y foment honno, llifodd ffynnon o'r ddaear yn y man lle cyffyrddodd ei gwaed â'r ddaear.

Mae Francis Jones yn nodi bod hon yn ffurf ar stori gyffredin a'r elfennau arhosol yw: merch neu wyryf sy'n ceisio ffoi oddi wrth un a fyddai'n gariad iddi ac sydd yn torri ei phen i ffwrdd - a ffynnon yn codi lle gwnaethpwyd yr anfadwaith. Weithiau mae'r ferch yn cael ei hatgyfodi gan sant flynyddoedd yn ddiweddarach. Adroddir stori gyffelyb am Sant Beuno mewn cysylltiad â Gwenffrewi, parthed Ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon, Sir y Fflint.[3]

Cyfeiriadau

  1. Ambrose, W. R. ‘’Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle’’ (Penygroes, 1872) t.56-57
  2. https://uwchgwyrfai.cymru/?page_id=337
  3. Francis Jones, The Holy Wells of Wales (Caerdydd, 1954), t.38.