Carwyn Eckley
Brodor o bentref Pen-y-groes yw Carwyn Eckley (ganed 1996), sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. Collodd ei dad, Padrig Eckley, ag yntau'n ifanc iawn, yn 2002, a'i fyfyrdodau ar y golled honno yw sylfaen ei gerddi a enillodd iddo gadair Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yn 2024. Ef yw un o enillwyr ieuengaf cadair yr Eisteddfod Gendlaethol erioed, a dim ond y pedwerydd prifardd cadeiriol sydd yn enedigol o Ddyffryn Nantlle.
Cafodd ei addysg yn Ysgol Dyffryn Nantlle a Phrifysgol Aberystwyth. Nododd ei ddiolch i'w athro Cymraeg yn yr ysgol, Eleri Owen, i'r darlithydd Eirug Salisbury yn y brifysgol ac i'r Prifardd Rhys Iorwerth am feithrin ei dalent. Mae o'n aelod o dîm Dros yr Aber yn rhaglen Talwrn y Beirdd. Mae o'n gweithio fel newyddiadurwr gyda ITV Cymru yng Nghaerdydd. Roedd yn enillydd y gadair yn yr eisteddfod ryng-golegol ac ef hefyd a enillodd cadair Eisteddfod yr Urdd, 2020-21.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma