Caer Loda
Mae fferm Caer Loda ar y tir gwastad rhwng yr A499 a'r môr, rhwng Pontlyfni a Glynllifon. Mae ceisio egluro ystyr a tharddiad yr enw hwn wedi peri cryn benbleth i lawer a cheir ymdriniaeth lawn gan Glenda Carr yn ei chyfrol Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd. Cyfeiriwyd at y lle fel Cae'rlode mewn ewyllys ym 1723. Caer Loda yw'r ffurf fynychaf o bell ffordd, gan ddeall yr elfen gyntaf fel caer yn hytrach na cae'r. Fodd bynnag, Cae'r aelodau a geir ym 1810 yn rhestr y tanysgrifwyr am gyfrol farddoniaeth Dafydd Ddu Eryri, Corph y Gaingc, a gwelir Cae'r Aulodau tua 1815 (Casgliad Newborough, Glynllifon). Gwrthodwyd 'aelodau' yn bendant gan Syr Ifor Williams a chynigiodd ef mai Caer Flodeu oedd yr enw gwreiddiol, gyda'r 'blodau' wedi mynd yn 'bloda' ac yna'n 'loda' yn nhafodiaith Arfon. Yn ei hymdriniaeth mae Dr Carr yn olrhain cysylltiadau'r enw â Phedwaredd Gainc y Mabinogi, sef Chwedl Math fab Mathonwy, y gwelir ei hôl ar gynifer o enwau lleoedd yn yr ardal hon, megis Dinas Dinlle, Bryn Gwydion, Maen Dylan a Dyffryn Nantlle.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.89-91.