Caer Engan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Caer Engan yn fryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn, ac sydd wedi'i lleoli ger Llanllyfni. Roedd iddi ddau os nad tri gwrthfur amddiffynnol o gerrig, ac mae olion o'r rhain i'w gweld, er bod llawer o'r cerrig wedi eu cludo oddi yno at ddibenion y fferm a'r ardal. At ei gilydd, felly, nid yw'r gaer mewn cyflwr arbennig o dda. Ni fu yma unrhyw gloddio sylweddol at ddibenion archeolegol.[1]

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw. Mae tua 570 o fryngaerau yng Nghymru. Yn achos Caer Engan, mae'n sefyll ar godiad tir ar waelod Dyffryn Nantlle mewn man strategol iawn. Mae'n dyddio'n ôl i'r un cyfnod â bryngaer Tre'r Ceiri sydd o fewn golwg Caer Engan, ac sydd y fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[2]

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd ei phwrpas, yn ystod y cyfnod cyn y goresgyniad Rhufeinig. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43, a dyna, mae'n debyg, gyfnod Caer Engan.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol
  2. Gwybodaeth o Wicipedia