Cae Adda Goch
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Mae'r annedd a elwir yn Gae Adda Goch ar gyrion dwyreiniol pentref Y Waunfawr. Fe'i cofnodwyd fel Kay atha goz ym 1558[1]. Erbyn diwedd y 18g a dechrau'r 19g llurguniwyd yr enw i Gadda Goch mewn sawl ffynhonnell. Ni wyddys pwy oedd Adda Goch. Roedd yr enw Adda yn weddol gyffredin yn yr Oesoedd Canol a'r ansoddair coch yn un a ychwanegir yn aml at enw personol, hyd yn oed heddiw. Symudwyd beudy Cae Adda Goch i Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan a'i ail-godi yno yn 2004.[2]