Bwlch Mawr (bwlch)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bwlch Mawr yw'r enw ar y bwlch eang rhwng mynyddoedd Eryri a mynyddoedd Y Curnau y rhed y briffordd A487 trwyddo.

Mae peth dryswch ynglŷn â tharddiad, neu'n wir, berthnasedd yr enw Bwlch Mawr. Mae'n debyg mai'r bwlch eang rhwng Mynydd Bwlch Mawr a'r mynyddoedd ar ddechrau Crib Nantlle yw'r bwlch mawr, ac mae'r mynydd i'r gorllewin o'r bwlch yn cymryd ei enw o'r bwlch hwnnw. Mae hefyd beth dryswch rhwng lleoliad y bwlch mawr, a rhai sy'n glynu at "Bwlch Mawr" fel enw'r mynydd yn honni mai Bwlch Dau Fynydd neu Bwlch Llanaelhaearn yw'r Bwlch Mawr y cyfeirir ato mewn hen groniclau.[1]

Cyfeiriadau

  1. Ebeneser Thomas, The Bwlch Mawr Defile in the Parish of Clynnog, in Archaeologia Cambrensis, Rhifyn XIV (Ebrill 1849), t.123