Bwlan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Bwlan yn enw ar dŷ a chapel i'r gogledd-ddwyrain o bentref Llandwrog. Ym 1814 yr adeiladwyd capel cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yno, ond ym 1724 cyfeirir ar y tŷ, sef Bwlan a Bwlan-bach (Casgliad Henblas B, Prifysgol Bangor). Ystyr yr enw bwlan (ceir yr amrywiad bylan hefyd) yw llestr neu fasged gron i ddal grawn ŷd neu wlân. Mae'n cyfleu rhywbeth crwn a boliog ac mewn enwau lleoedd mae'n cyfeirio fel rheol at fryncyn crwn. Arhosodd y sillafiad Bwlan yn weddol gyson ar hyd y blynyddoedd, ac eithrio rhai ffurfiau fel Boolan a Pwlan yn asesiadau'r Dreth Dir ar gyfer plwyf Llandwrog.[1]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), t.54.