Bugi a Beren

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yn ei llyfr A Book of Welsh Saints mae Dr Kathleen M. Evans yn nodi mai Bugi a Beren oedd enwau tad a mam Beuno Sant.[1] Enwau a oedd yn ffasiynol tua pymtheg can mlynedd yn ôl yn ystod Oes y Saint yng Nghymru efallai? Mae'r enw Beren i'w weld yn enw fferm Gallt Beren ar gyrion Rhydyclafdy yn Llŷn a cheir Garej Beren gerllaw Deiniolen. Diflannodd Bugi yn llwyr i bob golwg fodd bynnag. Oni fyddai'n hyfryd gweld merch yn cael ei henwi'n Beren unwaith eto yng Nghlynnog wedi'r holl flynyddoedd? Ond anodd dychmygu am unrhyw un yn rhoi Bugi ar fachgen chwaith!

Cyfeiriadau

  1. Kathleen M. Evans, A Book of Welsh Saints, (The Church in Wales Provincial Council for Education, 1959), tt.67-70.