Bryn Pipion

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cyfeirir at gae o'r enw Bryn Pibor mewn dogfen a luniwyd ym 1556 [1] i'r dwyrain o leoedd a enwyd fel Cae Grafog a Rhosnenan, ac i'r de o bentref modern Y Groeslon. Mae hyn yn ei leoli ar dir y Garth. Yn Rhestr Pennu'r Degwm plwyf Llandwrog ym 1842 cofnodir cae o'r enw Bryn pipion ar dir Garth. Mae'n debyg mai'r un enw, y naill yn unigol a'r llall y lluosog, sydd yn ail elfen y ddau gofnod uchod. Cynigir mai pibwr, sef 'pibydd', sydd yng nghofnod 1556. Ceir sawl enghraifft o pibwr mewn enwau lleoedd yn Ne Cymru - Sir Gaerfyrddin yn bennaf - ond pibydd fyddai'r ffurf fwy arferol yng Ngogledd Cymru. Anodd yw esbonio'r ffurf pipion - gall fod yn llurguniad neu gywasgiad o pibyddion - y pibwr gwreiddiol wedi cynhyrchu teulu o bibyddion dros amser efallai. Prin yw'r cyfeiriadau at gerddorion mewn enwau lleoedd yn rhan orllewinol yr hen Sir Gaernarfon. [2]

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, Casgliad Newborough, Glynllifon, XD2/6621
  2. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.50-1.