Bad achub Clynnog
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Penderfynwyd gosod bad achub yng Nghlynnog Fawr tua 1846. Mae terfynau Harbwr Caernarfon dan y ddeddf yn ymestyn hyd at arfordir plwyf Clynnog Fawr. Penderfynodd Ymddiriedolwyr yr Harbwr osod bad achub yng Nghlynnog yn ogystal ag un yn Llanddwyn, a bwriwyd ati i drefnu i adeiladu cwt ar gyfer y cwch.[1] Y bwriad oedd ei gael yn barod o fewn mis ond flwyddyn yn ddiweddarach nid oedd y trefniadau wedi eu cwblhau.[2] Erbyn 1850, fodd bynnag, daethpwyd i'r casgliad nad oedd angen bad achub yng Nghlynnog, ac fe'i symudwyd i Landdwyn fel ail gwch ar gyfer porthladd Caernarfon ac o'r adeg honno ymlaen dibynnwyd ar i fad Llanddwyn fedru ymateb i bob argyfwng ym Mae Caernarfon[3] - tan 1883 o leiaf, pan agorwyd gorsaf Bad achub Trefor.