Afon Marden

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Afon Marden yw enw nant fach sydd yn rhedeg trwy bentref Pant-glas. Ni cheir yr enw ar fapiau, ond soniwyd amdani yn y wasg ym 1878. Adroddwyd y pryd hynny am farwolaeth Edward Jones, Tan-y-dderwen, Bwlch Derwin trwy foddi yn Afon Marden. A barnu oddi wrth y manylion a roddir yn y papur newydd am y ddamwain, mae'n bur sicr mai yn y nant sydd yn rhedeg dan y rheilffordd ychydig i'r de o Orsaf Pant-glas y boddwyd y dyn, a hynny ar ôl iddo gerdded yn ei ddiod o sesiwn yfed yn nhafarnau Llanllyfni.[1]

Os yw'r dehongliad uchod o'r lle'n gywir, rhaid mai Afon Marden yw enw'r afonig neu nant oedd yn troi Melin Pant-glas.

Cyfeiriadau

  1. Y Genedl Gymgeig, 24.1.1878, t.5