Afon Ceiliog
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Mae Afon Ceiliog yn cael ei henwi yn siartrau Abaty Aberconwy, ac er nad yw'r enw'n ymddangos ar fapiau modern, mae bron y sicr mai dyma'r hen enw am yr afon fach sy'n rhedeg i'r dwyrain o fferm Cwm Ceiliog ym mhlwyf Llanaelhaearn, ac yn ffurfio'r ffin am ychydig rhwng y plwyf hwnnw ac Eifionydd - yn sicr dyna oedd cred Dr Colin Gresham. Roedd yr afon hon yn ffin orllewinol hen drefgordd Cwm.[1] Mae Afon Ceiliog yn ymuno ag afon fwy ger Pencaenewydd cyn llifo i mewn i Afon Erch.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Colin Gresham, The Aberconwy Charter, (Archaeologia Cambrensis, Rhagfyr 1939), tt.134-6