Afon Bach, Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ffrwd sy'n llifo ar gyrion Trefor ac o dan ran o'r pentref bellach yw Afon Bach.

Mae'n tarddu o dir corsiog ger Tyddyn Coch ac yna'n llifo i gyfeiriad y pentref drwy gaeau Capas Lwyd a Thir Du. Mae'n mynd o dan y lôn yng ngwaelod Lôn Newydd ac yna'n ailymddangos mewn ffos ddofn yr ochr arall i'r ffordd gan lifo dan waelod gardd ffermdy Llwynaethnen. Am gannoedd o lathenni wedyn mae wedi ei phibellu o dan Stad Llwynaethnen a chaeau Ysgol Trefor - bu'n agored yn y caeau hynny tan y 1970au pan ledwyd ffordd Croeshigol. Mae'n parhau o'r golwg o flaen Capel Gosen a'r fynedfa i garej bysys Clynnog a Threfor - dros y ffordd mae Tŷ Glanrafon sy'n tystio i'r cyfnod pan oedd y ffrwd yn agored dros y ffordd ag ef. Ceir lluniau o ddechrau'r 20g sy'n dangos yr Afon Bach yn agored yn y fan hon. Yna, ar ôl mynd dan y lôn drachefn ger yr hen Bin Dŵr mae'r ffrwd yn dod i'r golwg drachefn yng nghefn tai Ffordd yr Eifl. Bu sôn am flynyddoedd am ei phibellu yn y fan hon hefyd ond mae'n dal yn agored ac, ymhen ychydig o lathenni, wrth dŷ Llwyn Onn, mae'n gorffen ei thaith pan mae'n ymuno ag Afon Tâl.[1]

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol