Aberllyfni
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Arferid galw yr ardal wrth geg Afon Llyfni yn 'Aberllyfni[1] cyn i bont gael ei chodi dros yr afon nid nepell o'r aber, a hynny (mae'n debyg) ym 1777.[2] Wedi i'r bont honno ar ffordd fawr Pwllheli gael ei hadeiladu, daeth y gymuned fach wrth y bont i gael ei hadnabod fel Pontlyfni a bellach nid yw'r enw lle "Aberllyfni" yn cael ei arddel ond fel disgrifiad o nodwedd ddaearyddol.