Carreg Aliortus

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:31, 23 Rhagfyr 2020 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Carreg Aliortus yn hen garreg fedd yn dyddio o ddiwedd y 5ed ganrif neu hanner cyntaf y 6ed ganrif, gydag arysgrif mewn llythrennau Lladin, ALIORTUS . ELMETIACO HIC IACET, sef "Yma y gorwedd Aliortus, un o Elfed". Gall Aliortus fod yn ffurf Ladin ar enw Brythonig (neu Gymraeg cynnar) megis Eiliorth. Tybed pwy oedd y dyn yma a fu farw wrth droed yr Eifl, mor bell o'i gynefin. Efallai ei fod yn bererin cynnar ar ei ffordd i Enlli, neu efallai ei fod ef, ynghyd â nifer o rai eraill, wedi symud i'r rhan hon o Ogledd Cymru o deyrnasoedd yr Hen Ogledd wrth i'r mewnfudwyr a sefydlodd deyrnasoedd Eingl-Sacsonaidd Deifr a Brynaich (Deira a Bernicia - a unodd yn ddiweddarach i ffurfio Northumbria) ennill tir cynyddol yn yr hyn sydd bellach yn Ogledd Ddwyrain Lloegr, a gwthio'r Brythoniaid ymhellach i'r gorllewin a chipio eu tiroedd. Elmet oedd y deyrnas Geltaidd i'r gogledd-ddwyrain o ble mae dinas Loidis (Leeds) heddiw (ac mae pentrefi yno o hyd sydd wedi cadw'r hen enw - lleoedd megis Barwick-in-Elmet). Mae'r bardd adnabyddus Ted Hughes hefyd wedi diogelu enw'r hen deyrnas mewn cyfrol o farddoniaeth o'i eiddo, sef Remains of Elmet a gyhoeddwyd ym 1979, gyda fersiwn helaethach o'r enw Elmet yn unig yn ymddangos ym 1994.

Cafwyd hyd i'r garreg tua 1865 mewn cae o'r enw Gardd-y-Sant ger Eglwys Sant Aelhaearn, Llanaelhaearn, sydd bellach yn rhan o fynwent yr eglwys. Bellach mae wedi ei osod o fewn yr eglwys. Mae'r garreg tua 4'6" o hyd wrth droedfedd o led.

Mae dwy garreg arall nid annhebyg hefyd wedi eu hailosod yn yr eglwys ond nid yw'r arysgrif arnynt mor glir.[1]


Cyfeiriadau

  1. Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.110